TROSOLWG

Mae eich taith pererindod yn dechrau wrth ffynnon sanctaidd St Aidan of Ferns, y cyfeirir ati fel Ffynnon Sant Mogue (un arall o’i henwau). Yma, mae arferiad yn mynnu eich bod yn llenwi potel ddŵr fechan a’i chario i Dyddewi yng Nghymru. Nawr yn cerdded fel pererin, rydych chi’n mynd heibio i Eglwys Gadeiriol Sant Edan (Eglwys Iwerddon), sy’n cael ei hystyried fel yr eglwys gadeiriol leiaf yn Ewrop. Yna byddwch yn mynd heibio i adfail Abaty’r Santes Fair, a sefydlwyd ar gyfer yr Urdd Awstinaidd yn y 12fed ganrif gan Dermot MacMurrough, Brenin Leinster.

Yn Boolavogue, byddwch yn ymweld â Chanolfan y Tad John Murphy. Dyma’r fferm lle bu’r Tad Murphy, arweinydd gwrthryfelwyr 1798, yn byw am flynyddoedd lawer.

Y tu hwnt i Ganolfan y Tad Murphy, ar yr ochr dde, byddwch yn dod ar draws lios neu gaer tylwyth teg. O ddiwedd yr Oes Haearn hyd at y cyfnod Cristnogol, bu Gwyddelod yn adeiladu’r adeileddau crwn hyn gyda chloddiau pridd i amddiffyn pobl a da byw ar adegau o ryfel. Mae chwedlau gwerin wedi tyfu o gwmpas y rhain sy’n dweud y bydd melltith yn cael ei roi ar y rhai sy’n tarfu arnynt neu’n eu dinistrio, ac mae’n debyg mai dyna pam mae miloedd o’r strwythurau hyn yn dal i oroesi yn Iwerddon.

Ar Oulart Hill, byddwch yn pasio safle buddugoliaeth wych i’r Gwyddelod Unedig ym 1798. Mae dargyfeiriad byr o faes parcio yn mynd â chi i’r godidog Tulach a’tSolais. Mae’r gofeb hon, a agorwyd ym 1998, yn coffáu Gwrthryfel 1798 yn ddramatig ac mae’n fersiwn fodern o’r beddrodau cyn-Gristnogol fel yr un yn Newgrange. Mae’n cyd-fynd â chyhydnos y gwanwyn a’r hydref pan fydd yr haul yn gwawrio neu’n machlud drwy’r dramwyfa.

UCHAFBWYNTIAU / LLEOEDD O DDIDDORDEB

Ferns

Tref hanesyddol y credir iddi gael ei sefydlu pan adeiladwyd y fynachlog gan Sant Aidan (a elwir hefyd yn Sant Mogue). Mae gan Ferns lawer o safleoedd eglwysig ar gyfer y pererin sydd newydd ddechrau ar y llwybr: Ffynnon Sant Mogue, Eglwys Gadeiriol Sant Edan ac adfeilion Abaty’r Santes Fair.

Darganfod mwy yn https://fernsvillage.ie/

Canolfan y Tad John Murphy

Yn Boolavogue, byddwch yn ymweld â Chanolfan y Tad John Murphy. Dyma’r fferm lle bu’r Tad Murphy, arweinydd gwrthryfelwyr 1798, yn byw am flynyddoedd lawer. Mae’r ganolfan yn cynnwys ei fwthyn, sy’n enghraifft wych o adeilad gwerinol o’r 18fed ganrif. Mae hwn wedi’i leoli ar fuarth fferm wedi’i adfer sy’n cynnwys beudy, cwt mochyn, llaethdy, stabl, llety llafurwyr ac amrywiaeth o beiriannau fferm o’r gorffennol. Ar agor yn dymhorol. Gwiriwch eu tudalen Facebook am oriau agor cyfredol.

Tulach a'tSolais

Cofadail hynod yn nodi 200 mlynedd ers gwrthryfel 1798. Roedd adeiladu tulach neu domen gladdu yn arwydd o gysylltiad rhwng byd y byw a’r byd arall. Gyda hollt drwy’r domen ond heb addurn – natur sy’n darparu’r sioe gyda haul y gyhydnos yn codi’n berffaith yn y dramwyfa.

Mae Oulart, sy’n deillio o’r gair hynafol am berllan, yn cael ei gynrychioli ymhellach gan naw math o goeden afalau Gwyddelig hynafol a blannwyd yn 2014.

Cerddwch drwy’r llwybr a chwarae gyda’r acwsteg hardd yn y man caeedig.

Dermot MacMurrough

Carreg fedd MacMurrough

MacMurrough oedd Brenin Leinster yn yr 12fed ganrif a apeliodd at y Normaniaid i helpu i setlo anghydfod rhwng Brenhinoedd Gwyddelig. Ym 1153, cipiodd wraig Tiernan O’Ruark, Brenin Breifne yng Ngogledd Iwerddon. Cafwyd ymryson chwerw ac, ym 1166, gyrrwyd Dermot o Iwerddon.

Yna, rhoddodd y Brenin Harri II o Loegr ganiatâd i Dermot gael cymorth i adennill ei deyrnas oddi wrth arglwyddi Eingl-Normanaidd de Cymru. Cafodd ei gymorth mwyaf nodedig (yn gyfnewid am ferch Dermot, Aoife) gan Iarll Penfro, a oedd â’ llysenw Strongbow.

Ym 1169, sefydlodd yr Arglwyddi Normanaidd droedle yn Iwerddon, ac mae presenoldeb arfog Seisnig yn dal i fod ar yr ynys hyd heddiw.

 

Abaty Ferns a'r Gadeirlan

COED GWERN

Ganrifoedd lawer yn ôl, roedd Ferns yn cael ei adnabod fel cartref coed gwern. Roedd y wernen yn cael ei hystyried yn goeden hudolus, ac roedd yn gysegredig i’r Derwyddon. Roeddent yn credu y gallai eu helpu i gael mynediad i’r Arallfyd.

Ond hyd yn oed yn y byd hwn, mae rhywbeth arbennig iawn am y goeden wernen, sef perthynas symbiotig rhwng bacteriwm o’r enw Frankia a’r wernen. Mae Frankia yn creu nodiwlau bachu nitrogen o fewn system wreiddiau’r wernen ac mae hyn wedyn yn gwella’r pridd o’i chwmpas. Mae hyn yn caniatáu i’r wernen dyfu ar dir gwael neu mewn amodau gwlyb iawn lle nad oes llawer o bridd.

Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr

Byddwch y cyntaf i wybod am ddigwyddiadau tywys sy’n cael eu cynnig a’r holl ddatblygiadau diweddaraf ar hyd y llwybr.

logo

Subscribe To Our E-News

Keep up to date with news from the pilgrimage route. 

You have Successfully Subscribed!