TROSOLWG

Dyma gymal olaf Ffordd y Pererinion Wexford-Sir Benfro, o Borth Mawr i Dyddewi. Dechreuwch wrth olion cudd capel Sant Padrig ar dwmpath uchel i’r dwyrain o’r bae, y dywedir mai o’r fan hon yr hwyliodd Sant Padrig i gychwyn ar ei daith i Iwerddon. Dilynwch lwybr yr arfordir o Borth Mawr i Borth Stinan, a oedd yn gyffeswr i Dewi Sant, a gwelwch adfeilion Capel Sant Stinan (ar dir preifat) yn edrych dros Ynys Dewi.

Dilynwch lwybr yr arfordir a’r llanwau drwy Swnt Dewi heibio i’r brigiad peryglus o greigiau o’r enw The Bitches, a grëwyd yn ôl y sôn gan Sant Stinan ei hun gyda bwyell tra’n torri Ynys Dewi oddi ar y tir mawr. Unwaith y byddwch chi o amgylch Swnt Dewi, byddwch yn dilyn llwybr yr arfordir i Fae Porthlysgi, a enwyd ar ôl y môr-leidr Gwyddelig, rhyfelwr mawr y dywedir iddo ladd y Pennaeth Celtaidd lleol yn Clegyr Boia.

Bydd llwybr yr arfordir wedyn yn mynd â chi i harbwr Porthclais lle gallwch ddarganfod yr hyn a gredir yw Ffynnon Fedydd Dewi Sant yn Ffynnon Ddewi. Yna mae’r llwybr yn parhau i fae’r Santes Non, man geni Dewi Sant. Yma mae safle gweddillion Capel y Santes Non, cylchoedd paganaidd hudolus a meini hirion, ffynnon y Santes Non a chapel Catholig bach newydd a godwyd yn yr hyn y tybiwyd oedd yr un arddull ag adfail Capel y Santes Non.

O Santes Non, mae’n daith gerdded fer i mewn i’r tir gan ddilyn yr afon Alun, gan fynd heibio adfeilion Palas yr Esgob i Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Ar ôl cyrraedd y Gadeirlan, gwnewch eich ffordd i gysegrfa Dewi Sant, pen y daith.

UCHAFBWYNTIAU / LLEOEDD O DDIDDORDEB

Porth Stinan

Mae Capel Sant Stinan bellach ar dir preifat ond gellir ei weld ychydig uwchben canolfan yr RNLI. Mae’r strwythur hwn yn dyddio o’r 16eg ganrif yn bennaf ond credir y gallai guddio adfeilion ganrifoedd lawer yn hŷn. Roedd hwn yn gyrchfan bwysig i bererinion canoloesol.

Sant Stinan oedd cyffeswr Dewi Sant ac mae llawer o chwedlau amdano. Tybid ei fod yn llym iawn ac yn ystyried Dewi Sant yn rhy lac gyda’r mynachod. Aeth felly i Ynys Dewi gyda mynachod teyrngarol, gan ddinistrio pont dir wrth fynd gyda bwyell. Credir mai gweddillion y bont dir hon yw’r Bitches, sef creigiau garw yn agos i Ynys Dewi.

Ond ni wellodd pethau i Sant Stinan. Yn ôl y chwedl, trodd ei ddilynwyr yn ei erbyn a thorri ei ben i ffwrdd â’r un fwyell. Heb ei drechu, cododd Sant Stinan ei ben a cherdded yn ôl i’r tir mawr, lle rhoddodd ei ben ar y llawr, a ddaeth yn safle ffynnon sanctaidd (deugain metr i’r dwyrain o weddillion y capel).

Ynys Dewi

Yr RSPB sy’n berchen ar Ynys Dewi ac yn ei rheoli ar hyn o bryd, ond gallwch ymweld rhwng mis Ebrill/y Pasg a mis Hydref. Mae cwch yn gadael o orsaf yr RNLI ar gyfer teithiau dydd. Cafodd Ynys Dewi ei glirio o lygod mawr, sy’n dirywio poblogaethau adar, yn 2000 ac ers hynny mae’r adar wedi ffynnu. Mae’r Ynys yn SoDdGA ac yn un o’r mannau gorau i weld adar a morloi yn arbennig.

Gelwir y darn o ddŵr rhwng Ynys Dewi a’r tir mawr yn Swnt Dewi, ac mae’n gartref i arbrofion tyfu gwymon ar raffau yn y môr. Wrth gerdded ar hyd llwybr yr arfordir ar hyd Swnt Dewi, mae’r ynys yn eich amddiffyn rhag y gwyntoedd cryfaf. Pan fyddwch chi’n mynd y tu hwnt i Ynys Dewi a theimlo grym llawn y gwyntoedd sy’n dod dros y cefnfor, rydych chi’n sylweddoli faint roedd yr ynys yn eich gwarchod.

Capel y Santes Non

Yn fan hynod bwysig, yn ôl y sôn dyma’r man lle rhoddodd y Santes Non enedigaeth i’w mab Dewi. Mae’r safle yn Gatholig ac yn Baganaidd/Cynhanesyddol, gyda chylch cerrig o amgylch adfeilion y capel yn y cae.

Mae Ffynnon y Santes Non yn un o ffynhonnau iachau pwysicaf Cymru a dywedir bod ganddi gysylltiad iachusol arbennig â’r llygaid. Mae’r safle ysbrydol arbennig hwn, gyda’r capel adfeiliedig a’r ffynnon, wedi bod yn gyrchfan pererindod ers canrifoedd. Arllwyswch y dŵr sanctaidd o’r poteli rydych chi wedi bod yn eu casglu o’r ffynhonnau sanctaidd eraill ar hyd y ffordd pererinion, ac yna rhowch eich dwylo a’ch traed yn y dŵr, a chyffyrddwch â’ch talcen, eich gwddf a’ch calon.

Mae yna hefyd gapel newydd o’r 20fed ganrif ar dir y Ganolfan Encil gerllaw. Mae’r capel ar agor i’r cyhoedd ond mae’r Ganolfan Encil ar gau am y tro. Cwblhawyd y capel Catholig newydd ym 1934 gan ddefnyddio carreg o adfeilion priordy, ac fe’i dyluniwyd fel atgynhyrchiad o’r capel gwreiddiol.

Porthclais

Mae Porthclais yn harbwr gwarchodedig hardd sy’n swynol, boed yn llawn neu’n sych. Mae’r morglawdd yn dyddio o gyfnod y Normaniaid, er iddo gael ei adfer yn helaeth yn y 18fed ganrif. Gwyddys mai Porthclais oedd prif harbwr dinas Tyddewi am ganrifoedd cyn hynny. Mae odynau calch ar hyd ymyl yr harbwr yn ein hatgoffa o’r elfen fasnachol yma. Mae Dyfed Archaeology yn cyfeirio at Lyfrau Porthladdoedd Cymru ar gyfer y blynyddoedd 1550-1603 sy’n cofnodi “mewnforio nwyddau moethus fel gwin, rhesins, pupur a calico, a phren o Iwerddon. Y prif allforion a gofnodwyd yw grawn.”

Bellach mae maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a bloc toiledau ar hen safle gwaith nwy. Byddwch hefyd yn dod o hyd i Giosg Porthclais (tymhorol), lle gwych ar gyfer lluniaeth.

I’r chwith o’r maes parcio mae ffynnon fedydd Dewi Sant sydd weithiau’n sych. Honnir bod Dewi Sant wedi ei fedyddio yma gan Sant Elvis.

Tyddewi

Man gorffen y bererindod yw’r gysegrfa yng nghanol Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Wedi’i dinistrio yn y diwygiad, cafodd y gysegrfa ei hadfer yn ofalus yn 2012 ac mae’n bwynt terfyn priodol ar gyfer pererinion. Yng nghefn y gysegrfa, dan olwg Sant Stinan a’r Santes Non, mae tair cilfach benlinio lle gall pererinion ddiolch am eu teithiau.

Mae’r eglwys gadeiriol ei hun yn llawn cyfoeth i bererinion. Peidiwch ag anghofio edrych i fyny i weld y nenfydau rhyfeddol yng nghorff yr eglwys a chwilio am y misericordiae yn stondinau’r côr. Allwch chi weld yr un gyda phererinion mewn cwch gydag un teithiwr yn cael help llaw i fod yn sâl dros ochr y cwch?

Ac yn olaf mae dinas Tyddewi (dinas leiaf Prydain) a all fod yn fyrlymus a phrysur yn yr haf ond yn gysglyd ac yn dawel ar dymhorau eraill.

Dewi Sant a’r Pennaeth Boia

Gwersyllfa

Yn ôl y chwedl, cyfarwyddwyd Dewi Sant gan angel i ddychwelyd i Sir Benfro i sefydlu mynachlog. Dathlodd ef a’i ffrindiau, gan gynnwys Sant Aidan, eu dyfodiad adref drwy adeiladu tân mawr. Yn anffodus iddyn nhw, roedd y tân ar dir pennaeth Gwyddelig o’r enw Boia. Roedd ef a’i deulu’n byw mewn hen gaer ac yn roedd enwog am derfysgu’r tiroedd o’i gwmpas. Roedd Boia yn gandryll gyda’r ymwthiad hwn ar ei diroedd, a phenderfynodd arwain ei ryfelwyr gorau allan i ymosod arnynt. Wrth nesu at y dynion sanctaidd, daeth twymyn rhyfedd dros Boia a’i ddynion. Enciliasant i’w caer ond canfuwyd yn fuan fod eu holl wartheg a defaid wedi marw. Gan sylweddoli grym y tresmaswyr, dychwelodd Boia at Dewi Sant a gofynnodd am drugaredd. Gwnaeth Dewi Sant heddwch â Boia a dod â’i anifeiliaid yn ôl yn fyw, ond dim ond ar ôl i Boia roi tir i’r fynachlog newydd.

Roedd gwraig Boia yn gandryll pan glywodd hi hyn a cheisiodd gael gwared ar Dewi Sant ei hun. Anfonodd ei chaethweision benywaidd i ymdrochi’n noeth, chwarae gemau awgrymog a defnyddio geiriau anweddus o flaen y mynachod. Ymbiliodd y mynachod ar Dewi Sant i adael rhag iddynt syrthio i demtasiwn, ond gwrthododd ac adferodd drefn drwy arwain y mynachod i ymprydio a gweddïo drwy’r nos.

Mewn gweithred olaf o herfeiddiad, aberthodd gwraig Boia ei llysferch Dunawd i’r duwiau paganaidd. Pan sylweddolodd nad oedd yr aberth wedi gwneud dim, aeth yn wallgof ac ni chafodd ei gweld byth eto. Penderfynodd Boia ddial am ei wraig a’i ferch a pharatoi i ymosod ar Dewi Sant eto, ond cyn iddo allu gwneud hynny, fe oresgynnodd pennaeth Gwyddelig arall ei dir a’i ddienyddio. Parhaodd dialedd dwyfol; glawiodd tân i lawr o’r awyr gan ddinistrio anheddiad Boia. Dros 1,400 o flynyddoedd yn ddiweddarach, pan ddaeth archeolegwyr i gloddio yn Clegyr Boia, daethant o hyd i weddillion golosgedig cytiau a stordai.

Madarch a chlustog Fair

BLODAU GWYLLT

Fe welwch amrywiaeth dda o flodau gwyllt ar hyd llwybr Sir Benfro ym mhob tymor. Ond maent yn arbennig o ysblennydd yn y gwanwyn a dechrau’r haf (Ebrill i Fehefin).

Ar wahanol adegau, mae’r llwybr wedi’i leinio â chloddiau clustog Fair a gludlys arfor, briweg, briallu Mair, ffacbysen yr arennau. Mae yna hefyd fantais ychwanegol o bethau prin fel seren y gwanwyn a llawer mwy. Pan mae llai o amrywiaeth lliw, mae’r eithin a’r grug yn cyflwyno tonnau o felyn a phorffor.

Mae yna flodau gwyllt amrywiol yn gysylltiedig â phererinion fel balm wedi’i wneud o dresgl i leddfu poen traed, neu ddail llyriad yn yr esgidiau (sandalau yn ôl pob tebyg flynyddoedd maith un ôl) i atal pothelli.

Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr

Byddwch y cyntaf i wybod am ddigwyddiadau tywys sy’n cael eu cynnig ar hyd y llwybr a’r holl ddatblygiadau diweddaraf ar hyd y llwybr.

logo

Subscribe To Our E-News

Keep up to date with news from the pilgrimage route. 

You have Successfully Subscribed!