
EIN TÎM PERTHYNAS

Y Corff Arweiniol
Pilgrim Paths Ireland
Journeying
Mae Journeying yn fudiad gwirfoddol dielw sy’n mynd â grwpiau bach ar wyliau teithiau cerdded tywysedig mewn awyrgylch Cristnogol anffurfiol i rannau mwy anghysbell Ynysoedd Prydain. Wrth heicio trwy rannau hardd o’r Alban, Lloegr, Cymru ac Iwerddon, mae hanes a threftadaeth yr Ynysoedd hyn ym mhobman. Arweinir pob gwyliau gan dywyswyr gwirfoddol. Mae gwreiddiau Journeying yn gorwedd mewn ysbrydolrwydd Celtaidd ac mae pererindod yn llinyn sydd wedi’i weu trwy bopeth a wnawn.
Guided Pilgrimage
Mae Guided Pilgrimage yn gwmni teithio dielw sy’n darparu ystod o brofiadau pererindod Geltaidd yng ngorllewin Cymru, o deithiau tywys wyth diwrnod hyd at deithiau hunan-dywys. Maent yn gweithio gyda grwpiau preifat gyda threfniadau wedi’u teilwra i weddu i’w diddordebau ac unigolion sy’n archebu teithiau gosod.


Prosiect a ariennir gan yr UE / ERDF yw Cysylltiadau Hynafol sy’n adfywio’r cysylltiadau hynafol rhwng Gogledd Wexford a Gogledd Sir Benfro, Iwerddon a Chymru, er mwyn creu twristiaeth gynaliadwy yn y rhanbarthau hyn a rhyngddynt. Prif gynnyrch etifeddiaeth y fenter yw llwybr pererindod trawsffiniol sy’n cysylltu Ferns yn Wexford, Iwerddon â Thyddewi yn Sir Benfro, Cymru. Mae’r llwybr 260km yn ein hatgoffa o’r dreftadaeth gyffredin a amlygwyd gan gyfeillgarwch dau sant o’r 5ed Ganrif, Sant Aidan o Iwerddon a Dewi Sant o Gymru.

David Pepper | Swyddog Pererindod Cymru
Fel Swyddog Pererindod i Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain, mae David yn rhan o’r tîm sy’n datblygu Llwybr Pererinion Wexford-Sir Benfro. Mae’n trefnu digwyddiadau lleol ac yn bwynt cyswllt ar gyfer popeth sy’n ymwneud ag ochr Gymreig y llwybr. Cysylltwch ag ef gydag unrhyw ymholiadau am y llwybr neu os ydych chi’n ddarparwr gwasanaeth yn yr ardal ac yn dymuno darganfod mwy am weithio gyda ni yng Nghymru.
Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr
Byddwch y cyntaf i wybod am ddigwyddiadau tywys sy’n cael eu cynnig ar hyd y llwybr a’r holl ddatblygiadau diweddaraf wrth i ni anelu am lansiad pererindod yn 2023.

Credyd Llun Pennawd – Karel Jasper