TROSOLWG

O Abereiddi i Borth Mawr, dyma un o’r cymalau mwyaf dramatig. Mae ganddi ymdeimlad dwfn o’r gorffennol ac arwyddion cyntaf o diroedd Tyddewi. Wrth ddringo i ffwrdd o draeth Abereiddi, cyn bo hir byddwch yn pasio’r dystiolaeth olaf o chwareli diwydiannol, gyda golygfeydd gwych yn ôl i Fae Abereiddi. Wrth gerdded ar hyd llwybr arfordir tonnog, byddwch yn mynd drwy aneddiadau hynafol, a’r cyntaf ohonynt yw cyfadeilad Caerau o dair caer o’r Oes Haearn. Dilynwch lwybr yr arfordir i fae diarffordd nesaf Aber-pwll, gyda llwybr serth iawn i lawr iddo, ond cofiwch fod un ofalus os yw hi’n wlyb.

Ar ôl codi allan o Aber-pwll, byddwch yn parhau ar hyd darn dramatig o arfordir, gan fynd drwy anheddiad hynafol arall, sef caer Castell Coch. Yna dechreuwch ddringo i Garn Penberi lle, ar ddiwrnod da, mae’r olygfa’n agor i’r tu hwnt i Ffos y Mynach, hen diroedd Tyddewi gyda Thŵr y Gadeirlan yn y golwg.

Cymerwch amser i lawr o Garn Penberi i lawr tuag at Borth y Dwfr, sy’n aml yn lle da i orffwys am dipyn gan eich bod chi tua hanner ffordd drwy’r cymal. Parhewch ar hyd llwybr yr arfordir sy’n arwain tuag at un o’r rhannau mwyaf anghysbell a gwyllt sy’n enwog am ei chynefin ecolegol.

Ychydig cyn Porth Gwyn, mae opsiwn i droi i’r chwith a dargyfeirio i bentref adfeiliedig Maes-y-mynydd. Cadwch lygad ar agor am dair simnai adfeiliedig y pentref yn y pellter.

Ar hyn o bryd, byddwch chi yng nghysgod Carn Llidi, y brigiad mawreddog sy’n sefyll dros Fae Porth Mawr. O’r fan hon, mae gennych chi opsiynau o fynd i mewn i Fae Porth Mawr ar y llwybr swyddogol ar yr ochr arfordirol, neu ddewis ochr fewndirol Carn Llidi. Gan barhau ar hyd llwybr yr arfordir, cadwch olwg am fwy o fywyd gwyllt cyfoethog ym Mhenllechwen a’r merlod sy’n byw yn yr ardal hon. Os oes gennych chi amser, dringwch i gopa Carn Llidi ac eisteddwch ar sedd Sant Padrig ble, ar rai diwrnodau, gallwch chi weld cyn bell â Mynyddoedd Wicklow yn Iwerddon. Yma y dywedodd yr angylion wrth Sant Padrig am ddychwelyd i Iwerddon.

Rydych chi’n mynd i mewn i Fae Porth Mawr gan fynd heibio i weddillion cudd Capel Sant Padrig. Porth Mawr yw un o draethau harddaf Cymru lle mae’r dyfroedd yn grisial glir ar gyfer ymdrochi. Os nad yw’r tywydd yn ffafriol, mae caffi traeth Porth Mawr yn lle da i gael lluniaeth haeddiannol (tymhorol).

UCHAFBWYNTIAU / LLEOEDD O DDIDDORDEB

Maes-y-mynydd

Mae dargyfeiriad dewisol i’r hyn a allai fod wedi bod yn hen bentref Crynwyr o’r enw Maes-y-mynydd drwy hen lwybr wedi’i leinio â cherrig a elwir yn ‘Road to New York’.

Yn ôl traddodiad lleol, roedd hwn yn anheddiad a ddewiswyd oherwydd ei leoliad anghysbell i ddod o hyd i heddwch i ffwrdd o gymdeithas ac ailgysylltu â’r tir. Dywed chwedl hefyd eu bod yn benderfynol o hwylio ar draws y môr i’r Americas.

Mae archaeoleg yn dweud wrthym ei bod yn fwy na thebyg yn gymuned bysgota, er y byddai mynediad i’r môr o’r fan hon wedi bod yn beryglus. Cofnodwyd hyd at 7 o dai ym 1829 ond, erbyn 1908, roedd yr anheddiad yn dirywio. Wnaethon nhw i gyd gyrraedd America, tybed?

Penmaen Dewi

Fel ardal sydd mor anghysbell ac ar y dibyn, mae’n hawdd cysylltu ag ymdeimlad dyfnach o amser yma wrth fynd heibio i Goetan Arthur, siambr gladdu sy’n dyddio’n ôl i 3,500 CC.

Mae naws gynhanesyddol i dirwedd Penmaen Dewi, gyda llechi a chlogfeini anferth. Ond mae tystiolaeth hefyd o gaer bentir yr ystyrir ei bod wedi’i meddiannu ar ddiwedd yr Oes Haearn. Yn ddiddorol, mae tystiolaeth bellach o wal enfawr ar draws y pentir sy’n gwneud y gaer (Clawdd y Milwyr) yn hynod o amddiffynedig.

Porth Mawr

Bae Porth Mawr fyddai’r man lle byddai pererinion ar y môr o Iwerddon wedi glanio a diolch i Dduw am eu taith ddiogel. Wrth i chi ddod i mewn i’r bae a chyn cyrraedd y maes parcio, byddwch yn mynd dros safle Capel Sant Padrig. Mae gweddillion y capel o dan y twyni tywod ac fe’u cloddiwyd yn ddiweddar i ddatgelu beddau o mor bell yn ôl â’r chweched ganrif.

Mae gan Fae Porth Mawr un o’r traethau gorau yng Nghymru ac mae’n arbennig o boblogaidd gyda syrffwyr. Gall fod yn brysur iawn ar ddiwrnod poeth o haf. Mae wedi’i ddynodi’n draeth Baner Las ac mae achubwyr bywyd yn bresennol ar adegau prysur. Mae brigiad creigiog Carn Llidi yn sefyll dros y traeth ac mae’n werth i chi ddargyfeirio i’w esgyn. Mae’r golygfeydd yn ysblennydd a gallwch hefyd orffwys i fyny yno ar sedd Sant Padrig, y man yr honnir i angel ymweld â Sant Padrig a dweud wrtho am deithio i Iwerddon i ledaenu’r neges Gristnogol.

Capel Sant Padrig

Y Groes Geltaidd

Mae traddodiad i Sant Padrig hwylio o Borth Mawr yn 432 OC i drosi Iwerddon i Gristnogaeth. Mae safle capel Celtaidd, wedi’i gysegru i Sant Padrig, wedi’i leoli o dan domen ger y maes parcio ychydig i’r dwyrain o’r bae, yn y fan y credir i bererinion i Gadeirlan Tyddewi Ianio.

Mae gwaith cloddio yn y fynwent wedi datgelu dros 100 o gladdedigaethau hyd yn hyn. Mae gwaith dyddio radiocarbon wedi dangos bod y fynwent yn cael ei defnyddio rhwng y 6ed ganrif a’r 11eg ganrif OC. Ymhellach, mae dadansoddiad o’r sgerbydau ym Mhrifysgol Sheffield wedi datgelu poblogaeth gymysg o ddynion, menywod a phlant o bob oed. Roedd beddi wedi’u halinio o’r dwyrain i’r gorllewin, gyda’r pen i’r gorllewin. Yn unol â’r traddodiad claddu Cristnogol, nid oedd unrhyw eiddo wedi’i gladdu gyda’r cyrff. Roedd rhai o’r sgerbydau mewn cistiau – beddau wedi’u leinio a’u capio â slabiau carreg, traddodiad claddu a oedd yn gyffredin ar draws gorllewin Prydain yn y cyfnod canoloesol cynnar.

Dolffiniaid Risso

MORFILOD

Mae’r moroedd o amgylch Sir Benfro yn gartref i’r 5 prif rhywogaeth o forfilod sef y dolffin cyffredin, y dolffin trwynbwl, llamhidydd yr harbwr, dolffin Risso a’r morfil pigfain. Yn y llun yma mae dolffiniaid Risso, y gellir eu hadnabod drwy fod â phen llydan, dim pig ac asgell ddorsal uchel.

Mae Ymddiriedolaeth y Môr yn argymell technegau ar gyfer gweld morfilod – sganiwch y môr, gan chwilio am fflach o symudiad neu liw (mae moroedd tawelach yn ei gwneud hi’n haws eu gweld); daliwch ati i edrych yn y fan a’r lle; edrychwch am arwyddion eraill fel croniad o adar yn bwydo ar bysgod sy’n cael eu gwthio i’r wyneb.

Credyd delwedd: Ymddiriedolaeth y y Môr, wedi’i leoli yn Wdig yn Ocean Lab ar flaen yr harbwr.

Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr

Byddwch y cyntaf i wybod am ddigwyddiadau tywys sy’n cael eu cynnig ar hyd y llwybr a’r holl ddatblygiadau diweddaraf ar hyd y llwybr.

logo

Subscribe To Our E-News

Keep up to date with news from the pilgrimage route. 

You have Successfully Subscribed!