TROSOLWG

Gan gychwyn o’r Bygone Days Storytelling House, mae’r llwybr yn arwain i’r de-orllewin. Ar un adeg roedd yr arddull adeiladu to gwellt hwn yn gyffredin ar draws Iwerddon wledig ond mae bellach yn fwyaf cyffredin yn Wexford, sydd â’r nifer fwyaf o fythynnod o’r fath. Adeiladwyd yr adeiladau traddodiadol hyn yn bennaf o waliau llaid, gyda waliau gwyngalchog a thoeau gwellt o wenith neu geirch arnynt. Strwythurau gwerinol syml, maent bellach yn cael eu hystyried yn rhan bwysig o dreftadaeth adeiledig Iwerddon. Edrychwch allan am fwy ar hyd y ffordd.

Yna mae’r llwybr yn eich tywys i Goedwig Kilbride, gan ddilyn llwybr coediog i fferm ac yna ymlaen i fynwent bwysig Ballyhuskard, sy’n hanu o 1798.

Ar ôl golygfeydd hyfryd o’r dyffryn, byddwch yn cyrraedd Oilgate i orffen y cymal hwn yn Eglwys Dewi Sant. Gofalwch eich bod yn ymweld â Gardd Iacháu Raphael ar dir yr Eglwys, sydd i lawer yn gyrchfan pererindod yn ei rhinwedd ei hun.

UCHAFBWYNTIAU / LLEOEDD O DDIDDORDEB

Bygone Days Storytelling House

Bwthyn to gwellt swynol, sydd dros 200 oed, yw’r lleoliad perffaith ar gyfer adrodd straeon a chanu, gan roi croeso cynnes i ymwelwyr. Mae wedi bod yno ers Gwrthryfel 1798, felly mae’n siŵr bod gan gerrig yr adeilad lawer o straeon i’w hadrodd. Roedd yn gartref tan 1992 a chafodd ei adfer i’w ffurf wreiddiol ym1996.

Cynhelir nosweithiau adrodd straeon a digwyddiadau eraill yn rheolaidd, a John Dempsey yw’r trefnydd lleol. Y peth gorau yw cysylltu drwy eu tudalen Facebook i weld pryd mae digwyddiadau wedi’u trefnu.

Gardd Iacháu Raphael

Dyma le rhyfeddol lle mae llawer o bobl yn dod ar bererindod i fynd i’r afael â phroblem yn eu bywydau. Mae’r ardd yn adrodd stori o bererindod. Mae’n rhoi sylwi broblemau mawr bywyd megis galar a cholled ac yn darparu man gobaith lle mae’n bosibl cymryd amser i fynd i’r afael â’r materion hyn a dod o hyd i ffordd drwyddynt i ddyfodol newydd.

Y Tad John Murphy

Arwydd boolavogue

Mae Oulart yn gyfystyr â Gwrthryfel 1798. Gellir dadlau mai Brwydr Oulart Hill oedd brwydr fwyaf dylanwadol y gwrthryfel.

Yn heddychwr yn wreiddiol, arweiniodd y Tad John Murphy, ei bobl mewn gwrthryfel digymell yn dilyn gweithredoedd o ormes yn erbyn ei blwyfolion yn ystod 1798, a daeth yn un o brif arweinwyr gwrthryfel Wexford yn erbyn rheolaeth Prydain yn Iwerddon.

Yn llwyddiannus mewn llawer o frwydrau ac wrth gipio tref Enniscorthy, trechwyd ef o’r diwedd ym Mrwydr Vinegar Hill. Cafodd ei arestio’n ddiweddarach yn Sir Carlow, ac ymddangosodd gerbron y llys milwrol ar gyhuddiad o frad. Fe’i cafwyd yn euog, ac fe’i dienyddiwyd ym mis Gorffennaf 1798. Fodd bynnag, cedwir ei gof yn fyw yn y faled boblogaidd Boolavogue .

Drws tylwyth teg

Tylwyth Teg

Wrth fynd i mewn i Goedwig Kilbride, fe ddowch ar draws drws tylwyth teg coch. Ym mytholeg Wyddelig, dywedir bod drysau o’r fath yn rhoi mynediad i’r Isfyd Celtaidd. Mae traddodiad cryf yn honni mai’r Tuatha de Danann oedd y bobl gyntaf yn Iwerddon nes i’r Celtiaid gyrraedd a’u gyrru dan ddaear. Yna defnyddiodd y Tuatha de Danann hud i ddod yn Sidhe – hil o bobl fach sy’n hysbys heddiw fel y tylwyth teg, y rhai sy’n gallu rhoi swynion drwg ar y rhai sy’n eu tramgwyddo. Mae llawer o Wyddelod yn dal i geisio peidio â thramgwyddo’r Bobl Fach a, pheth amser yn ôl, bu’n rhaid dargyfeirio traffordd i osgoi ymyrryd â choeden tylwyth teg.

 

 

Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr

Byddwch y cyntaf i wybod am ddigwyddiadau tywys sy’n cael eu cynnig ar hyd y llwybr a’r holl ddatblygiadau diweddaraf wrth i ni anelu at lansiad y bererindod yn 2023.

logo

Subscribe To Our E-News

Keep up to date with news from the pilgrimage route. 

You have Successfully Subscribed!