TROSOLWG

Ychydig y tu hwnt i’r Oilgate mae Ffynnon Dewi Sant y dywedir iddi gael ei bendithio gan Dewi Sant ar ymweliad ag Iwerddon. Yn ôl traddodiad, mae pererinion yn llenwi ail botel â dŵr o’r ffynnon y credir ei fod yn cynnwys nodweddion iachaol, a’i gludo i Dyddewi.

Ar ôl croesi Afon Slaney, efallai yr hoffech chi ymweld â’r Irish National Heritage Park, sef amgueddfa awyr agored 35 erw sy’n arddangos 9,000 o flynyddoedd o Hanes Iwerddon o gyfnod Oes y Cerrig hyd at oresgyniad y Normaniaid ym 1169. Mae gan y Parc enghraifft o Garreg Ogham, sy’n darlunio’r ffurf hynaf o ysgrifennu Celtaidd. Mae’r cerrig hyn hefyd i’w gweld ledled Sir Benfro, sy’n dangos y cysylltiadau hynafol rhwng Iwerddon a Chymru. Mae’r parc hefyd wedi ail-greu anheddiad mynachaidd Celtaidd o gyfnod Aidan a Dewi, gan gynnwys croes uchel, eglwys a fferm gyda chychod gwenyn.

Ailymunwch â’r llwybr drwy ddilyn y Three Rocks Trail, gan fynd heibio Wal Newyn cyn esgyn Mynydd Forth i’r Windgap Rocks, sy’n cynnig golygfeydd dros y llyn hynod brydferth yn Chwarel Carrigfoyle.

Mae eich taith yn parhau i dir Castell Johnstown, sy’n gartref i wenynfa enwog. Caniatewch ddigon o amser i archwilio’r safle diddorol hwn. Gadewch Gastell Johnstown ar y ffordd heibio adeiladau’r ganolfan ymchwil, yna trowch i’r dde i orffen ym mhentref Piercestown.

UCHAFBWYNTIAU / LLEOEDD O DDIDDORDEB

Ffynnon Dewi Sant

Mae Ffynnon Dewi Sant wedi bod yn lle pererindod ers canrifoedd gyda phobl yn cael eu denu at y dyfroedd iachusol honedig. Mae’r ffynnon mewn siâp allwedd gydag ychydig o risiau yn mynd â’r ymwelydd i lawr tuag at ddyfroedd y ffynnon. Yr amser mwyaf poblogaidd i ymweld yw ar Ddydd Gŵyl Dewi sy’n cael ei ddathlu ar 1 Mawrth.

Chwarel Carrigfoyle

Mae Chwarel Carrigfoyle yn fan poblogaidd gyda llyn hardd gyda chlogwyni a choedwigoedd ar ei ymyl. Yn safle chwarel flaenorol, dechreuodd y basn lenwi â dŵr daear pan orffennodd y gwaith yma i ffurfio’r llyn hardd. Fel pob llyn chwarel, rhaid bod yn ofalus ac ni argymhellir nofio oherwydd oerni’r dŵr o’r dyfnder mawr.

Castell Johnstown

Mae Castell Johnstown yn cynnig llawer o ddiddordeb i’r ymwelydd gyda Chastell Adfywiad, yr Irish Agricultural Museum a gerddi helaeth. Mae tir y castell yn gartref i wenynfa enwog, gan fod yr hinsawdd heulog yn ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer cadw gwenyn.

 

Wal Newyn

Ar hyd Three Rocks Trail, byddwch yn mynd heibio Wal Newyn ar y dde. Adeiladwyd y waliau hyn yn ystod Newyn Iwerddon yn y 1840au fel gwaith lleddfu a oedd yn cael ei redeg gan yr eglwys a thirfeddianwyr lleol. Cafodd y Newyn effaith enfawr ar Iwerddon, gydag 1 miliwn yn marw ac 1 miliwn yn ymfudo.

Brwydr Three Rocks

Blunderbuss

Yn dilyn buddugoliaethau gwrthryfelwyr yn Oulart Hill ac Enniscorthy, lledaenodd Gwrthryfel 1798 yn erbyn rheolaeth Prydain yn Iwerddon ledled y de-ddwyrain. Gyda thref Wexford bellach dan fygythiad, cychwynnodd colofn o filwyr Prydeinig o Gaer Duncannon yng ngorllewin y sir i gryfhau amddiffynfeydd y dref. Gwthiodd rhan o’r golofn o flaen y brif fintai ac ymosodwyd arni gan y gwrthryfelwyr, yr United Irishmen. Cafodd y Prydeinwyr eu trechu, gyda’r goroeswyr yn cilio i Duncannon. Rhoddodd hyn y gwrthryfelwyr mewn sefyllfa gref i gipio Wexford.

Pan glywodd y Cadfridog Maxwell, cadlywydd gwarchodlu Wexford, am y gorchfygiad yn Three Rocks ac na fyddai unrhyw atgyfnerthiad yn cyrraedd o Duncannon, enciliodd o’r dref. Caniataodd hyn i luoedd y gwrthryfelwyr ddod i mewn i Wexford heb eu herio, a nododd uchafbwynt eu hymgyrch.

Ar eich taith gerdded dros Fynydd Forth, byddwch yn pasio uwchben safle brwydr Three Rocks, a oedd yn lleoliad cudd-ymosod delfrydol. Mae hwn bellach wedi’i nodi gan gofeb drawiadol a gwblhawyd ym 1952.

Gwenyn o gwmpas cwch gwenyn

GWENYN

Wedi’u hysgrifennu’n gyntaf yn y 7fed ganrif, roedd yna gyfreithiau lleol yn nodi pe bai cacynen yn cymryd neithdar o dir cymydog, y byddai’n rhaid darparu iawndal. Ond gohiriwyd y taliad tan y 4edd flwyddyn pan fu’n rhaid rhoi’r haid gyntaf i’r cymydog.

Roedd gwenyn i gael eu trin fel unrhyw aelod arall o’r teulu, ac iddynt gael clywed unrhyw newyddion da a drwg. Roedd hyn yn cynnwys rhoi gwybod iddynt os oedd marwolaeth yn y teulu, a rhannu bwyd yr angladd gyda nhw.

Roedd ein hynafiaid yn glir iawn am bwysigrwydd gwenyn.

(Diolch i’r wefan chwedlonol Stair na h’Éireann am yr uchod)

Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr

Byddwch y cyntaf i wybod am ddigwyddiadau tywys sy’n cael eu cynnig ar hyd y llwybr a’r holl ddatblygiadau diweddaraf wrth i ni anelu at lansiad y bererindod yn 2023.

logo

Subscribe To Our E-News

Keep up to date with news from the pilgrimage route. 

You have Successfully Subscribed!