TROSOLWG
Mae’r cymal hwn yn mynd â chi drwy ardal o Wexford sy’n gyfoethog gydag adleisiau o Goncwest Normanaidd Iwerddon. Un gymynrodd o’r fath oedd yr Iaith Yola, sef math o hen Saesneg a gludwyd i Wexford gan y goresgynwyr Normanaidd ac a siaradwyd yn yr ardal hon am gannoedd o flynyddoedd. Diflannodd yr iaith Yola pan fu farw’r siaradwr brodorol olaf ym 1998, ond mae llawer o eiriau ac ymadroddion yn dal i oroesi yn yr ardal.
I’w nodi ar hyd y ffordd, ac ychydig oddi ar y llwybr mae pentref Tacumshane y ame’n werth ymweld ag ef i weld yr hen felin wynt a’r Garreg ‘Bullaun’ gerllaw (tua 100 metr i’r gorllewin o’r felin wynt). Wedi’i hadeiladu o bren a olchwyd i’r lan ar draethau cyfagos, dyma’r unig felin wynt gwbl gyflawn o’i bath sydd wedi goroesi yn Iwerddon. Nodwedd brin yw ei gap gwellt sy’n troi i ddal y gwynt ar gyfer ei hwyliau. Mae Carreg ‘Bullaun’ yn un â phant wedi’i gerfio ynddi ac mae’n enghraifft o orffennol Cristnogol cynnar yn yr ardal hon.
Prif uchafbwynt y cymal hwn yw’r diwedd yn Our Lady’s Island – gofalwch eich bod yn caniatáu digon o amser i grwydro’r gyrchfan bererindod enwog hon. Er ei bod wedi’i henwi’n ynys, mae mewn gwirionedd ar benrhyn llyn, yn gartref i gastell a thŵr Normanaidd trawiadol, ynghyd ag olion eglwys a mynwent ganoloesol (mae rhagor o wybodaeth o dan uchafbwyntiau isod).
UCHAFBWYNTIAU / LLEOEDD O DDIDDORDEB
Melin Wynt Tacumshane
Credir mai’r felin wynt draddodiadol hon oedd y felin wynt hynaf a oedd yn gweithio’n fasnachol yn y Weriniaeth. Adeiladwyd y felin wynt ym 1846 gan y saer melinau Nicolas Moran, a hyfforddodd yn Rotterdam, ac mae’n ymddangos iddi roi’r gorau i gael ei defnyddio rywbryd cyn 1930.
Mae’n debyg bod y rhan fwyaf o’r pren wedi’i achub o’r arfordir, ac naill ai’n froc môr neu’n bren o longddrylliadau. Roedd 13 o felinau ŷd o’r fath yn y rhanbarth arfordirol a Tacumshane yw’r olaf ohonynt. Mae bellach yn Gofeb Genedlaethol.
Mae rhywbeth arbennig iawn am weld yr hen strwythur hwn, sy’n ein hatgoffa o waith ar y tir ar hyd yr oesoedd – cysylltiad rhwng y ddaear a’r awyr. Yn yr 21ain Ganrif, rydym yn dal i geisio harneisio’r gwynt er mwyn brwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd ond nid oes gan y melinau gwynt modern a adeiladwyd â metel ddim o’r ceinder sy’n amlwg yma.
Our Lady's Island
Yma fe welwch chi leoliad hudolus. Mae wedi bod yn lle pererindod Gristnogol ers o leiaf 1,500 o flynyddoedd, ond mae cysegredigrwydd y lleoliad yn rhagflaenu Cristnogaeth fel man addoli paganaidd. Yn y cyfnod cyn-Gristnogol, fe’i gelwid yn Meadow of the Women er anrhydedd i’r derwyddon benywaidd a oedd yn byw yno cyn i Gristnogaeth gyrraedd. Fodd bynnag, roedd yr eglwys gynnar yn ymwybodol o bwysigrwydd addoliad benywaidd, ac aethant at ii dderbyn y traddodiad hwn drwy ei ailenwi’n Our Lady’s Island ar ôl mam Iesu, er mwyn i bobl allu parhau i barchu ysbrydolrwydd benywaidd.
Ers hynny, mae wedi bod yn gysegrfa bwysig i addoliad Marïaidd. Mae’r safle, sydd wedi’i leoli nid ar ynys ond ar benrhyn llyn, yn cynnwys castell a thŵr Normanaidd trawiadol, ynghyd ag olion eglwys a mynwent ganoloesol.
Pererinion ar y ffordd
Cyrraedd Our Lady's Island
Our Lady's Island
Church of the Assumption
Y Tad Jim Cogley
Our Lady's Well
Arwydd i Our Lady's Well
Melin Wynt Tacumshane
Credyd Llun - Creative Commons/Mike Searle
Croes Geltaidd
Oliver Cromwell ac Our Lady’s Island
Ym mis Hydref 1649, cyrhaeddodd Oliver Cromwell Wexford, gan godi ofn ar y boblogaeth frodorol, gyda llawer o bobl yn ceisio noddfa ar Our Lady’s Island. Fel y digwyddodd hefyd ar y Rock of Cashel, Tipperary, nid oedd milwyr Cromwell yn cydnabod noddfa eglwys. Llofruddiwyd llawer o’r rhai a oedd yn ceisio lloches a chafodd yr eglwys ei halogi a dinistriwyd ei tho.
Yn ystod y gyflafan, rhuthrodd dyn lleol i mewn i’r eglwys a chipio oddi ar yr allor y croeslun a gafodd ei barchu gan genedlaethau o bererinion. Mewn ymgais i’w achub rhag milwyr Lloegr, ceisiodd ddianc ar draws y llyn. Er hynny, saethwyd ef a chollwyd y croeslun. Arhosodd ar wely’r llyn tan 1887 pan ddaethpwyd o hyd iddo a chafodd e’i gyflwyno i’r offeiriad plwyf lleol. Heddiw, fe’i cedwir mewn cysegrfa syml yn eglwys y plwyf.
‘MUMMING’
Traddodiad arall sy’n dal yn fywiog yn Ne Wexford yw ‘mumming’, y derbynnir yn gyffredinol iddo gael ei gyflwyno i Wexford gan y Normaniaid. Yn draddodiadol, mae mummers yn mynd o dŷ i dŷ ac yn perfformio cerddoriaeth a dramâu byrion, gyda’r rhan fwyaf o’r cymeriadau yn dod o hanes Iwerddon. Maent yn gwisgo gwisgoedd arbennig a masgiau gwellt a rhoddir bwyd neu arian iddynt fel arwydd o ddiolch. Dan arweiniad “Capten” sy’n cyhoeddi eu cyrhaeddiad ac yn gofyn am ganiatâd i berfformio, maen nhw’n cario cleddyfau pren sydd wedyn yn dod yn rhan o ddawns gywrain.
Credyd delwedd: Diolch i Sean Rowe am ddelwedd o Drinagh Mummers
Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr
Byddwch y cyntaf i wybod am ddigwyddiadau tywys sy’n cael eu cynnig ar hyd y llwybr a’r holl ddatblygiadau diweddaraf wrth i ni anelu am lansiad pererindod yn 2023.