TROSOLWG
Y pumed cymal, a chymal olaf adran Iwerddon y llwybr i Rosslare. O’r Eglwys yn Our Lady’s Island, dilynwch y llwybr troed allan o’r pentref ar hyd y ffordd i Carne, gan gymryd dargyfeiriad bach wrth y Cross of the Shad i gyrraedd Our Lady’s Holy Well. Llenwch eich trydedd botel gyda’r dŵr o’r ffynnon hon, ac ewch â hi i Dyddewi.
Gan ddychwelyd i’r Cross of the Shad, cymerwch eiliad i fwynhau’r olygfa ar draws y llyn i’r môr. Codwyd y ‘shad’ (yn yr iaith Yola) dros garreg fawr a orweddai yma ar un adeg. Roedd offerennau cyfrinachol yn cael eu cynnal wrth y garreg yn yr awyr agored yn ystod y cyfnod Cosbi pan waharddwyd dathlu offeren.
Parhewch i’r dwyrain ar hyd y ffordd. Ar ôl cyrraedd y groesffordd ar ddiwedd Little Lane, ewch yn syth ymlaen i gyfeiriad y dwyrain tuag at Harbwr Rosslare. Mae’r llwybr yn arwain at y brif ffordd drwy bentref Kilrane, cadwch i’r dde a dilynwch y llwybr troed i’r gyffordd nesaf, cadwch i’r dde eto ac yna i’r chwith eto i’r ffordd a fydd yn eich arwain i ganol Pentref Harbwr Rosslare. Cadwch lygad ar agor am yr ardd gudd, sef gardd a reolir gan y gymuned sy’n werddon o dawelwch a harddwch cyn parhau i Borthladd Rosslare.
UCHAFBWYNTIAU / LLEOEDD O DDIDDORDEB
Our Lady's Well
Mae Our Lady’s Well wedi’i hamgylchynu gan waliau gwyn gyda gât ar yr ochr ddwyreiniol. Mae dau ris carreg yn mynd â chi i lawr at y ffynnon. Rydym yn arbennig o hoff o’r daith gerdded fer ond swynol hon i lawr yr hen drac pererindod. Mae maen hir wedi’i leoli yn y fynwent gyfagos.
Tymor Pererindod Blynyddol
Mae Our Lady’s Island yn gartref i ddigwyddiad pererindod Nawddsant torfol bob blwyddyn o 15 Awst, The Feast of Our Lady of the Assumption, hyd at 8 Medi, ei phen-blwydd. Mae seremonïau’n cychwyn ar y 15fed gydag offeren am 3pm ac yna gorymdaith, ac yn gorffen ar ôl offeren ar yr 8fed gyda gorymdaith golau tortsh a bendith olaf.
Yn ystod y tymor, mae pererinion yn symud yn dawel o amgylch yr Ynys, naill ai mewn grwpiau wedi’u trefnu neu’n unigol, yn adrodd y Llaswyr. Yn ddelfrydol, mae pererin yn gwneud yr ymarfer hwn naw gwaith yn ystod y tymor. Trefn y Bererindod:
- Mae’r pererin yn dechrau gydag ymweliad ag Eglwys y Plwyf
- Mae’r pererin nawr yn cerdded ar hyd y sarn i’r Gysegrfa wrth y fynedfa i’r Ynys ac yn gweddïo yno am ychydig funudau.
- Nesaf, mae’r pererin yn dilyn y llwybr i’r chwith o’r Ynys.
- Mae’r Llaswyr gyda’i bymtheg degawd (mae’r Mysteries of Light yn ddewisol) yn cael ei adrodd wrth i’r pererinion gerdded o amgylch yr Ynys.
(Ffynhonnell: https://ferns.ie/events/our-ladys-island-pilgrimage/)
Harbwr Wexford
Wrth i chi agosáu at Rosslare, fe gewch olygfa banoramig ar draws Harbwr Wexford tuag at y North Slobs. Yn y 19eg ganrif, adeiladwyd morglawdd ac adenillwyd rhan fawr o’r Harbwr o’r cefnfor. Mae’r ardal isel hon bellach yn Warchodfa Adar Gwyllt Wexford lle mae dros 250 o rywogaethau o adar wedi’u cofnodi. Sefydlwyd y warchodfa i ddarparu cartref gaeaf i’r 8,500 o wyddau talcenwyn yr Ynys Las sy’n cyrraedd bob blwyddyn ar fudiad blynyddol.
Roedd y morglawdd hefyd yn golygu bod Ynys Beggerin yn dod yn rhan o’r tir mawr ac mae bellach yn rhan o Ystâd fodern Beggerin.

Pererinion ar Draeth Carne

Coedwig garegog

Wynebu'r anhysbys

Potiau cimychiaid ar Draeth Carne

Ffordd â choed ar ei hyd

Fferi Stena

Arwydd Croeso Pererinion
Sant Ibar

Mae gan Ynys Beggerin gysylltiadau hir â Sant Ibar, sant Gwyddelig cynnar (a elwir hefyd yn Ivor ac Iberius), sy’n nawddsant tref Wexford. Dywedir iddo gael ei eni yn Swydd Down, a theithiodd dramor i astudio Cristnogaeth yn y 5ed ganrif. Wedi dychwelyd i Iwerddon fel esgob, ymgartrefodd yn y diwedd ar ynys yn Harbwr Wexford, lle adeiladodd eglwys a chell fynachaidd.
Cymaint oedd ei enw da am sancteiddrwydd fel y daeth dilynwyr o bob rhan o Iwerddon i sefydlu mynachlog Gristnogol gynnar ar yr ynys. Yn ddiweddarach, daeth Ibar yn ddisgybl i Sant Padrig, er bod traddodiad yn nodi bod ei genhadaeth yn Iwerddon yn rhagflaenu cenhadaeth Padrig. Mae olion anheddiad Cristnogol cynnar i’w gweld o hyd mewn lleoliad ar y North Slob, a fu unwaith yn ynys yn Harbwr Wexford.

CHAINEYS
Wrth gerdded ar hyd y lan i gyfeiriad Rosslare, cadwch lygad ar agor am ddarnau bach o serameg a dreuliwyd gan y môr, wedi’u golchi i fyny o un o’r llongddrylliadau o’r 19eg ganrif a ddigwyddodd yn y dyfroedd hyn. Fe’u hadnabyddir yn lleol fel “chaineys”, ac maent wedi’u defnyddio gan y gymuned i greu bywyd newydd mewn darnau mosaig hardd drwy’r pentref, gan gynnwys y seddau yn yr ardd goffa. Gorffwyswch am ychydig wrth i chi ddod i ddiwedd eich taith yn Iwerddon.
Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr
Byddwch y cyntaf i wybod am ddigwyddiadau tywys sy’n cael eu cynnig ar hyd y llwybr a’r holl ddatblygiadau diweddaraf wrth i ni anelu am lansiad pererindod yn 2023.
