FAQ
A yw Llwybr yn Barod ar gyfer Pererinion?
Rydym yn treialu’r llwybr presennol yn Iwerddon gyda theithiau grŵp tywys. Nid yw’r llwybr llinellol llawn yn barod eto ar gyfer pererinion hunan-dywys gan fod angen gwneud gwaith i osod arwyddion a chyfeirbwyntiau, a’r bwriad yw y bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud yn y flwyddyn (blynyddoedd) i ddod. Yn Iwerddon, rhaid i unrhyw lwybr cerdded gael Achrediad gan Sports Ireland cyn cael ei awdurdodi’n llawn, ac mae’r broses honno’n cael ei dilyn, ond mae’n cymryd nifer o flynyddoedd. Tan hynny, nid yw’r llwybr yn cael ei argymell ar gyfer pererinion hunan-dywys.
Mae’r llwybr ar agor yng Nghymru ar gyfer grwpiau tywys a phererinion hunan-dywys sy’n defnyddio’r cyfeirbwyntiau digidol sydd ar gael drwy Outdoor Active nes i ni roi mwy o gyfeirbwyntiau ffisegol yn eu lle. Mae’r llwybr yng Nghymru yn bennaf yn dilyn Llwybr Arfordirol Penfro o Wdig i Dyddewi, er bod rhai rhannau mewndirol hefyd.
Cerdded yn Ddiogel
Os ydych chi ar bererindod ar eich pen eich hun, mae’n syniad da dweud wrth rywun ble rydych chi’n mynd a thua faint o’r gloch rydych chi’n disgwyl cyrraedd. Gofalwch eich bod wedi gosod nodweddion argyfwng ar eich ffôn symudol. Mae’r ap What 3 Words https://what3words.com/ yn darparu eich lleoliad o fewn tri metr ar gyfer y gwasanaethau brys.
Sylwch fod y llwybr yn Iwerddon ar y ffordd yn bennaf a bod mannau lle mae angen croesi ffyrdd prysur. Cymerwch eich amser a chroeswch dim ond pan fydd y ffordd yn glir. Ni ellir defnyddio pob rhan o lwybr y traeth i Rosslare pan fo’r llanw’n uchel. Dilynwch y gwyriadau mewndirol sydd wedi’u mapio ar y llwybr digidol.
Mae’r llwybr yng Nghymru yn bennaf ar Lwybr Arfordirol Penfro. Byddwch yn ofalus ar lwybrau ar ben clogwyni yn Sir Benfro, gan gadw’n ddigon pell o’r ymyl, yn enwedig mewn amodau gwlyb ac, wrth gerdded ar lonydd gwledig yn y ddwy wlad, cadwch lygad ar agor am geir. Argymhellir yn gryf eich bod yn defnyddio ffon neu bolyn cerdded ar Lwybr yr Arfordir.
Cofiwch hefyd nad oes signal ffôn ar hyd y rhan fwyaf o’r llwybr yng Nghymru ac mai prin iawn yw’r o cyfleusterau (toiledau, siopau, bwyd), felly mae angen i chi fynd â phopeth gyda chi bob dydd. Argymhellir eich bod yn lawrlwytho’r mapiau Outdoor Active cyn mentro allan.
Ac yn olaf, ni argymhellir cerdded ar Lwybr Arfordirol Penfro mewn gwyntoedd cryfion o unrhyw fath (ar y môr neu ar y tir) neu dywydd gwael oherwydd y dirwedd ac agosrwydd y llwybr at glogwyni uchel.
Mapiau a Chyfeirbwyntiau
Mae’r llwybr eisoes wedi’i gyfeirbwyntio’n ddigidol ac mae cyfeirbwyntiau ffisegol ar y gweill. Gallwch lawrlwytho’r map digidol yn Outdoor Active i’ch galluogi chi i ddod o hyd i’ch lleoliad bob amser. Unwaith y bydd y map wedi’i lawrlwytho, nid oes angen signal ffôn symudol i’w weld.
Yng Nghymru, mae 90% o’r llwybr ar Lwybr Arfordir Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae’r llwybr hwn eisoes wedi’i gyfeirbwyntio gyda symbol Mesen a chyda chragen Llwybr Arfordir Cymru. Lle mae’r llwybr yn cymryd gwyriadau mewndirol byr, bydd y rhain wedi’u yn cael eu nodi’n ffisegol gyda symbol Ffordd y Pererinion Wexford-Sir Benfro.
Esgidiau a Pholion
Mae esgidiau cerdded gyda gafael cryf yn hanfodol ar gyfer cymalau Cymru gan fod llwybr yr arfordir yn greigiog a llithrig pan yn wlyb. Yn Iwerddon, mae tua 80% o’r llwybr ar lonydd cefn bach felly mae esgidiau ymarfer corff/rhedeg yn iawn yno. Os ydych chi’n bwriadu gwneud y ddwy ran o’r llwybr un ar ôl y llall, efallai y byddai’n syniad da dod ag esgidiau cerdded ac esgidiau ymarfer corff/rhedeg gyda chi gan y gellir defnyddio esgidiau ymaarfer corff i ffwrdd o’r llwybr hefyd. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn dod â pholion cerdded gyda chi gan fod adrannau Cymru yn cynnwys llawer o esgyniadau creigiog a disgynfeydd sy’n llithrig os yn wlyb.
Tywydd a Dillad
Mae’r tywydd yn Iwerddon a Chymru yn gyfnewidiol iawn a gallwch chi brofi’r pedwar tymor mewn un diwrnod hyd yn oed yn ystod yr haf. Gellir gweld rhagolygon saith diwrnod yn Met Eireann ( www.met.ie ) ar gyfer Iwerddon a Swyddfa Dywydd Cymru ( www.metoffice.co.uk ).
Mae’n bwysig dod â siaced ysgafn sy’n dal dŵr a throwsus glaw gyda chi. Mae het sy’n dal dŵr sydd hefyd yn rhoi cysgod yn bwysig. Mae eli haul ffactor 30+ yn hanfodol ar gyfer yr haf gan y gallwch chi losgi hyd yn oed ar ddiwrnodau cymylog. Mae’n bwysig yfed ddigon o ddŵr a, chan fod peth o’r llwybr yn anghysbell rydym yn argymell eich bod yn mynd ag o leiaf 1 litr o ddŵr gyda chi bob dydd. Mae trychfilod sy’n brathu, yn enwedig ym mis Gorffennaf, felly mae ymlidydd pryfed ‘deet’ yn syniad da.
Ffitrwydd Corfforol
Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n cychwyn ar bererindod hir yn poeni a ydynt yn ddigon iach ar gyfer y daith sydd o’u blaenau.
Gwneud ymarfer corff yw’r peth allweddol i sicrhau eich bod yn gallu cerdded y pellteroedd y mae angen i chi eu teithio ar y tir rydych chi’n debygol o ddod ar ei draws. Ar Ffordd y Pererinion Wexford-Sir Benfro, byddwch chi’n teithio ar ffyrdd bach yn bennaf ar ochr Iwerddon a llwybrau troed arfordirol yn bennaf ar ochr Cymru.
Pa mor hir y bydd yn ei gymryd
Rydym wedi rhannu’r llwybr yn naw cymal (pump yn Iwerddon a phedwar yng Nghymru) a gellir cerdded pob un ohonynt mewn diwrnod os ydych chi’n gallu cerdded hyd at tua 20 cilometr (12 milltir y dydd). Os oes well gennych chi ddiwrnodau byrrach, gellir ei gerdded yn gyfforddus mewn pythefnos.
Llety a Bwyd
Rydym yn llunio rhestr o ddarparwyr llety sy’n cael ei diweddaru’n rheolaidd.
Rydym hefyd yn paratoi rhestr o gaffis, bwytai a siopau bwyd i helpu gyda’ch gwaith cynllunio.
Toiledau
Sonnir am leoliadau toiledau yn y disgrifiadau o bob cymal. Mae rhai adrannau heb gyfleusterau.
Canllaw Sain Rhithwir
Gallwch wrando ar ein canllaw sain rhithwir o’r llwybr trwy droi’r botwm Audio Guide (a ddynodir gan eicon clustffonau) yn yr ap Outdoor Active i’r safle ymlaen. Mae’r canllaw hwn yn darparu cynnwys sain unigryw ar bwyntiau allweddol ar hyd y llwybr ac yn chwarae’n awtomatig pan fyddwch chi’n cyrraedd pob lleoliad.
Oes Teithiau Tywys?
Oes, rydym yn trefnu amrywiaeth o deithiau cerdded undydd drwy gydol y flwyddyn. Ceir manylion yn yr adran Digwyddiadau ar y wefan. Mae sawl cwmni hefyd yn darparu teithiau tywys ar hyd y llwybr, gan gynnwys www.journeying.co.uk , www.waterfordcamino.com a guidedpilgrimage.co.uk
Cŵn
Mae’r llwybr yn addas ar gyfer cŵn ond rhaid eu cadw ar dennyn bob amser. Mae llawer o lwybr yr arfordir yng Nghymru yn cael ei rannu gyda da byw a gall ceir ymddangos yn gyflym ar ffyrdd cefn yn y ddwy wlad.
BETH I DDOD GYDA CHI
Bydd yr offer sydd ei angen arnoch chi yn dibynnu ar y math penodol o wyliau rydych chi am ei gael ac, yn fwy manwl gywir, y trefniadau cysgu. Os ydych chi’n bwriadu gwersylla, bydd angen llawer mwy o offer arnoch chi nag os ydych chi’n aros mewn llety gwely a brecwast yn yr ardal. Mae’r rhestr isod ar gyfer pecyn diwrnod yn unig ond rydym yn gobeithio y bydd yn ddefnyddiol ar gyfer eich pacio.
- Bag cefn ar gyfer cario dillad glaw (beth bynnag y mae rhagolygon y tywydd yn ei ddweud)
- Dillad sbâr gan gynnwys het / menig
- Dŵr (1 litr)
- Bwyd gan gynnwys bariau egni uchel
- Ffôn gyda gwefrydd batri sbâr
- Map papur neu ar-lein wedi’i lawrlwytho
- Eli haul
- Pecyn cymorth cyntaf.
- Esgidiau cadarn gyda chymorth pigwrn yn ddelfrydol i Gymru. Mae esgidiau cerdded / ymarfer corff yn dderbyniol ar gyfer Iwerddon lle mae llawer o’r cerdded ar y ffordd.
- Dillad haenog i addasu i dywydd cyfnewidiol
- Ffon neu bolyn cerdded (dewisol)
Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr
Byddwch y cyntaf i wybod am ddigwyddiadau tywys sy’n cael eu cynnig ar hyd y llwybr a’r holl ddatblygiadau diweddaraf ar hyd y llwybr.