
PECYN CYFRYNGAU

Ffordd y Pererinion Wexford-Sir Benfro.
DATGANIAD I’R WASG
I’w ddefnyddio ar unwaith
Mae taith bererindod i safle cysegredig wedi bod yn draddodiad Celtaidd bywiog ers y cyfnod Cristnogol cynnar. Mae un o’r llwybrau hynafol hyn – Ffordd y Pererinion Wexford-Sir Benfro – bellach yn cael ei ailgyflwyno i gysylltu safle mynachaidd Gwyddelig cynnar yn Ferns, Sir Wexford â Thyddewi yn Sir Benfro. Pan fydd y llwybr llawn wedi’i adfer, bydd cerddwyr yn dilyn llwybr wedi’i gyfeirio’n llawn ar lwybrau cyfriniol a sathrwyd gan Sant Aidan o Iwerddon a Dewi Sant o Gymru. Gan gymryd 9 diwrnod i’w gwblhau, bydd y llwybr yn llawn straeon o sawl cyfnod yn hanes Iwerddon a Chymru. Mae’n cynnig 5 cymal diddorol yn Wexford a 4 diwrnod swynol yn Sir Benfro, gyda chyfle i groesi ôr Iwerddon rhwng y ddwy ran.
Dywedodd Guy Hayward, cyfarwyddwr y British Pilgrimage Trust, sef y sefydliad arweiniol yn y bartneriaeth y tu ôl i’r llwybr newydd, “Rydyn ni yng nghamau cynnar y prosiect hirdymor hwn, ond mae ein tîm eisoes wedi creu llwybr diddorol sy’n pontio dwy ochr Môr Celtaidd. Mae’n ychwanegu lefelau pellach o ystyr i lwybr arfordir Penfro sydd eisoes ymhlith y gorau yn y byd, ac mae nifer o safleoedd treftadaeth ddiwylliannol yn dod â’r daith drwy Sir Wexford yn fyw – mae hon yn daith gerdded i bererinion y bydd llawer yn ei mwynhau ac yn ei gwerthfawrogi am genedlaethau.”
Mae Iain Tweedale yn gyn bennaeth darlledu ar-lein yn BBC Cymru, yn gyfarwyddwr Journeying, (un o’r sefydliadau partner y tu ôl i’r llwybr), ac yn aelod o grŵp llywio’r llwybr newydd. Mae’n esbonio: “Bydd y llwybr newydd yn mynd o Ferns yn Sir Wexford, sef prifddinas hynafol De-ddwyrain Iwerddon, i lawr yr arfordir i Rosslare. Yna, gall pobl neidio ar y fferi a chroesi draw i Abergwaun. Yna, byddan nhw’n cerdded o Abergwaun i lawr i Dyddewi, sef tua 160 cilometr i gyd”.
“Y gobaith yw y bydd yr ymwelwyr ychwanegol yn rhoi hwb i fusnesau lleol ar adegau tawelach o’r flwyddyn. Mae gennym ni gynllun pum mlynedd i wneud hwn yn llwybr arwyddocaol. Rydyn ni’n disgwyl o fewn pum mlynedd y bydd tua 4,000-5,000 ar y llwybr bob blwyddyn,” meddai Mr Tweedale.
Mae’r wefan newydd ( https://wexfordpembrokeshirepilgrimway.org ) yn darparu mapiau cynhwysfawr a chanllawiau cam wrth gam i ymwelwyr drwy ein partner mapio, Outdoor Active. Rydym hefyd yn falch iawn o gyflwyno ein canllaw sain, a ysgogir ar hyd y llwybr gan ddata GPS, gyda cherddoriaeth, straeon a gwybodaeth arall. Mae hon yn nodwedd unigryw dros lwybr mor hir.
Diwedd
AM RAGOR O WYBODAETH:
David Pepper (Swyddog Pererindod Sir Benfro) 07985339009
E-bost: david@britishpilgrimage.org
Eoghan Greene (Swyddog Prosiect, Cysylltiadau Hynafol) 087 3386005
E-bost: Eoghan.Greene@wexfordcoco.ie
NODIADAU I GYNHYRCHWYR/GOLYGYDDION RHAGLENNI
Yn ne-ddwyrain Iwerddon a de-orllewin Cymru, mae traddodiad cadarn yn sôn am Sant Aidan, a aned yn Iwerddon, yn teithio dros y môr i astudio o dan Dewi Sant, nawddsant Cymru. Yna, cafodd Aidan y dasg arbennig o gadw gwenyn ar gyfer cychod gwenyn Dewi.
Cystal oedd ei berthynas â’r gwenyn, pan oedd ar fin dychwelyd o’r diwedd i Iwerddon, heidiodd y gwenyn ar fwrdd ei long. Gan weld bod perthynas arbennig wedi datblygu rhwng y gwenyn ac Aidan, rhoddodd Dewi y gwenyn iddo. Yn ôl yn Wexford, sefydlodd y sant Gwyddelig fynachlog enwog yn Ferns, lle ffynnodd y gwenyn. Felly, crëewyd cwlwm gydol oes rhwng y ddau ddyn sanctaidd, gyda Dewi yn ymweld â Wexford yn ddiweddarach ac yn gadael ei ôl ar draws y dirwedd. Mae’r llwybr newydd yn dathlu’r berthynas rhwng y ddau sant Celtaidd enwog.
Partneriaid sy’n ymwneud â datblygu Ffordd y Pererinion Wexford-Sir Benfro:
British Pilgrimage Trust: https://britishpilgrimage.org
Pilgrim Paths Ireland: https://www.pilgrimpath.ie/
Journeying: https://www.journeying.co.uk
Guided Pilgrimage: https://www.guidedpilgrimage.co.uk
Cysylltiadau Hynafol: https://ancientconnections.org/
Gellir defnyddio’r delweddau isod wrth hyrwyddo Ffordd y Pererinion Wexford–Sir Benfro. Maent yn 1920px x 1280px (1280px x 1920px ar gyfer portread) ond cysylltwch â ni os oes angen delweddau cydraniad uchel neu feintiau mwy arnoch. Mae rhagor o ddelweddau i’w gweld ar wefan British Pilgrimage Trust yma – https://britishpilgrimage.org/portfolio/wexford-pembrokeshire-pilgrim-way/ .











Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr
Byddwch y cyntaf i wybod am ddigwyddiadau tywys sy’n cael eu cynnig ar hyd y llwybr a’r holl ddatblygiadau diweddaraf wrth i ni anelu am lansiad pererindod yn 2023.

Credyd Llun Pennawd – Karel Jasper