Daeth criw bach o bererinion ar hyd Llwybr Pererinion Wexford-Sir Benfro i gyrraedd Tyddewi ar gyfer dathliadau Dydd Gŵyl Dewi.

Er gwaetha’r oerfel a’r gwynt brau, ymgasglodd tyrfa dda yn Ffynnon Santes Non ar gyfer bendith traddodiadol Dydd Gŵyl Dewi. Aethom ymlaen wedyn i’r dref gydag emynau a chaneuon ar y ffordd gan fynd heibio i blant ysgol anelu am y ffynnon ar gyfer eu dathliadau eu hunain.

Cyrhaeddom Oriel y Parc am 12:00 hanner dydd i weld a fyddai’r haul yn tywynnu i lawr y twll yn y Garreg Ddydd Gŵyl Dewi i oleuo’r gerdd a ysgrifennwyd oddi tano. Fel arfer mae’n rhy gymylog ond roedd 2023 yn eithriad a chydag aliniad perffaith, ac i bonllefau gan y dorf, aeth y siafft o olau’r haul reit drwy’r twll.

Ar ôl mwy o fendithion yn sgwâr y dref, daeth yr orymdaith i ben yng Nghysegrfa Dewi Sant yn y Gadeirlan gyda gwasanaeth byr. Ond parhaodd y dathliadau yn ddiweddarach gyda darllediad byw o ganeuon hwyrol o’r Gadeirlan. Diweddglo hyfryd i bererindod fer ond llawn egni.

Ein digwyddiad cerdded pererindod nesaf yn yr ardal fydd Diwrnod Pererindod Sant Padrig ddydd Sadwrn 18 Mawrth:

Diwrnod Pererindod Sant Padrig
Ar Benwythnos Sant Padrig dathlwch y cysylltiadau rhwng Iwerddon a Chymru ar y Ffordd Pererinion newydd rhwng Wexford-Sir Benfro. Pererindod o Sant Pedr Wdig i Eglwys Sant Gwyndaf a Ffynnon Sanctaidd Llanwnda gyda David Pepper, arbenigwr o Wexford-Pembrokeshrie Pilgrim Way BPT, yn dathlu Penwythnos Sant Padrig a’r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad Geltaidd. (Pellter: 6 milltir)

Mwy o wybodaeth

Maen Dewi
Bendith yn Ffynnon Santes Non

Subscribe To Our E-News

Keep up to date with news from the pilgrimage route. 

You have Successfully Subscribed!